Rydym wedi ein lleoli yng Nghaergybi, ar Ynys Gybi. Mae Ynys Gybi oddi ar arfordir gorllewinol Ynys Môn a phrif dref Caergybi yw ein cartref ers 2006.
Nid yn unig mae gan Gaergybi feini hirion, tai crynion Celtaidd a siambrau claddu amrywiol, ond gallwn hefyd ymffrostio yn ein sant ein hunain, sef Sant Cybi.
Roedd Cybi Sant yn fab i Frenin Cernyw. Ymsefydlodd Cybi yn y pen draw ar Ynys Gybi yn y 6ed Ganrif. Sefydlodd fynachlog o fewn tri gweddillion muriog yr hen gaer Rufeinig.
Felly wnaethon ni enwi ein bragdy Cybi.
Mae gan ein cwrw ni naws lleol i’w henwau hefyd, gyda Chwrw’r Bae, Borth, Llan a Dulas – holwch ni am y cefndir!
Dilynwch y ddolen hon os hoffech wybod mwy am Sant Cybi: